Mae Pwyllgor Neuadd Bentref Rhiwlas wedi ennill grant sylweddol er mwyn gwella ansawdd yr hyn a gynigir yn yr adeilad. Penderfynwyd gosod offer a chypyrddau newydd yn y gegin a bydd hynny’n golygu na fydd yr ystafell honno ar gael i’r cyhoedd rhwng 4ydd Gorffennaf a’r 27ain Awst.
Ni fydd modd defnyddio’r gegin i wneud paned a gofynnir i bobl beidio berwi tecell yn un o’r ystafelloedd eraill ond gall unigolion ddod a fflasg o de/coffi gyda nhw os dymunir.
Y bwriad ydy sicrhau bod y brif ystafell fawr a’r ystafell gymunedol yn dal ar gael, ond gofynnir yn garedig i’r cyhoedd fod yn amyneddgar dros y cyfnod gan fydd gweithwyr ar y safle.
Bydd rhaid cadw rhai bocsus yn yr ystafell fawr tra mae’r gwaith yn mynd ymlaen ond ni ragwelir bydd hyn yn effeithio’n fawr ar ddefnydd yr ystafell.
Am fwy o wybodaeth:
E-bost: y.neuadd.rhiwlas@gmail.com
Ffôn: 07786554890