System Wresogi Newydd

Cyfarwyddiadau’r Gwresogyddion Yma

Mae system wresogi newydd bellach wedi ei gosod yn y Neuadd Bentref. Rydym yn sicr y bydd holl ddefnyddwyr y neuadd yn sylwi bod hi’n gynhesach yno rŵan, yn enwedig yn y brif neuadd, oedd o’r blaen yn anodd i’w chael i dymheredd braf. Hefyd, mae’r gwresogyddion newydd yn gweithredu’n llawer cynt na’r hen system olew.

Gyda’r hen foilar yn aneffeithiol, ac yn dod i ddiwedd ei hoes, penderfynodd pwyllgor rheoli’r Neuadd, ar ôl comisiynu adroddiad proffesiynol a chyda llawer o drafodaeth, ddewis trydan. Er nad yw’n bosib heddiw ddarogan beth fydd prisiau cymharol olew a thrydan dros y degawdau nesaf – oes tebygol y system newydd – y teimlad oedd mai trydan, nid olew, yw’r dyfodol, ac y byddai system drydan yn y Neuadd yn medru manteisio ar egni adnewyddadwy maes o law.

Mae 8 casét twymydd tanbaid (radiant heaters) 2.4kW yr un nawr wedi eu gosod, 4 ar bob wal hir, i daflu gwres yn y brif neuadd – bron i 20kW i gyd. Mae’r neuadd rŵan yn cynhesu’n gyflym iawn. (O’r blaen, rhaid oedd troi’r gwres ymlaen awr neu ddwy ymlaen llaw i gynhesu’r lle’n iawn.)

Yn ystafelloedd eraill yr adeilad ( yr Ystafell Gymunedol a’r Gegin a’r coridorau), mae gwresogyddion trydan mwy traddodiadol wedi eu gosod; ac mae panelau twymo tanbaid wedi eu gosod ar nenfydau’r toiledau.

Hoffem ddiolch i gwmni Jason Jôs o Lanberis am eu gwaith trylwyr yn gosod y system newydd hon yn y Neuadd.