Publicity

Mae Pwyllgor Rheoli Neuadd Bentref Rhiwlas yn chwilio am SWYDDOG CYHOEDDUSRWYDD gwirfoddol

Rhiwlas Village Hall Management Committee is seeking a volunteer PUBLICITY OFFICER

Click for English

Mae’r pwyllgor yn sylweddoli bod angen rhoi gwell cyhoeddusrwydd i’r digwyddiadau hynny sy’n cael eu cynnal yn Neuadd y Pentref.

Mae Pwyllgor Rheoli’r Neuadd yn gweithredu’n ddwyieithog, ond peidiwch â phoeni os nad ydych yn siarad neu’n ysgrifennu yn Gymraeg, mae help cyfieithu ar gael i chi.

Mae clybiau a chymdeithasau gwahanol yn cyfarfod yn rheolaidd, un ai yn y brif neuadd, neu yn yr ystafell gymunedol. Ac mae digwyddiadau eraill sy’n agored i’r cyhoedd yn cael eu trefnu weithiau yn y Neuadd. Mae’r gegin newydd hefyd ar gael i’w bwcio. Yn ddiweddar penderfynwyd diweddaru costau llogi cyfleusterau’r Neuadd.

Hyd yma, y prif ddulliau o hysbysebu’r digwyddiadau hyn fu trwy gyfrwng tudalennau FaceBook y Pentref, ar wefan y Neuadd, a phosteri ar y ddau hysbysfwrdd – un wrth y Neuadd, ac un ym Mro Rhiwen. Weithiau mae amser i hysbysebu hefyd yn Llais Ogwan, neu ar Radio Cymru.

Mae’r pwyllgor o’r farn y buasai’n werth ystyried dod â thaflen (neu “Newsletter”) dwyieithog, ar bapur, allan yn achlysurol, i gyhoeddi beth sydd ar ddigwydd yn y pentref dros yr wythnosau (neu fisoedd) nesaf. Ac efallai dosbarthu’r daflen o ddrws i ddrws yn y pentref.

Rydym yn gwybod bod ambell i ateb yn yr holiadur a ddosbarthwyd yn ystod 2021 yn datgan parodrwydd i wirfoddoli o ran cynhyrchu deunydd cyhoeddusrwydd. Felly, dyma ni rŵan yn gofyn i’n cyd-bentrefwyr os oes unrhyw un yn fodlon cymryd yr awenau, a gwneud gwaith Swyddog Cyhoeddusrwydd i’r Neuadd.

Gwirfoddolwyr sy’n rheoli’r Neuadd, a gwirfoddoli fydd y Swyddog Cyhoeddusrwydd hwn hefyd.

Mae’n debyg y byddai angen i’r Swyddog Cyhoeddusrwydd yma fynychu cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Neuadd, unwaith y mis, am 7 o’r gloch, yn y Neuadd, neu ar Zoom. Hefyd da o beth fuasai iddo, neu iddi, fod yn weddol gyfforddus yn defnyddio Word, E-bost, ac ati ar gyfrifiadur neu ar ffôn.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu i redeg eich Neuadd Bentref cysylltwch â ni ar e-bost: y.neuadd.rhiwlas@gmail.com, neu trwy ffonio’r cadeirydd, Elfyn, ar 07786 554890


Rhiwlas Village Hall Management Committee is seeking a volunteer PUBLICITY OFFICER

The committee is aware that there needs to be better publicity for events held in the Village Hall.

The Hall’s Management Committee operates bilingually, but don’t be concerned if you don’t speak or write in Welsh, there are translation facilities available for you.

Various clubs and societies meet regularly, either in the main hall, or in the community room. And other events, open to the public, are sometimes held in the Hall. The new kitchen is also available for booking. The fees for hiring the Hall’s facilities have recently been updated.

To date, these events have been mainly advertised on the village’s Facebook pages, on the Hall’s website, and posters on the two advertising boards – one by the Hall, and one in Bro Rhiwen. Sometimes there is also enough time to advertise in Llais Ogwan, or on Radio Cymru.

The committee has decided that it’s worth considering producing an occasional bilingual Newsletter – on paper – to announce what is about to happen in Rhiwlas over the next few weeks (or months). And to perhaps distribute this leaflet door-to-door in the village.

We know that a number of the replies to the questionnaire distributed in 2021 indicated a willingness to volunteer in the production of publicity material. Therefore, we now ask our fellow-villagers if anyone is ready to take the lead, and agree to act as the Hall’s Publicity Officer.

Volunteers run the Hall, and this Publicity Officer will also be a volunteer.

It’s likely that the Publicity Officer will need to attend the Hall’s Management Committee once a month, 7 o’clock, in the Hall, or on Zoom. It would also be great for them to have some experience of using Word, E-mail, and similar on a computer or phone.

If you are interested in helping us run your Village Hall contact us by e-mail: y.neuadd.rhiwlas@gmail.com, or by contacting the chairman, Elfyn, on 07786 554890