Myfyrdod – Meditation

Myfyrdod Mantrayana yn y Neuadd       Mantrayana Meditation in the Hall

English

Bydd sesiynau’n cychwyn ar ddydd Mawrth, Mehefin 13, am 7.20pm. Sesiynau galw heibio (ac ar-lein). Does dim angen cofrestru, dim ond troi i mewn. Y rhodd dwi’n ei awgrymu ar gyfer pob dosbarth yw rhwng £4 a £12 ar gyfer pob dosbarth (graddfa amrywiol; mi fedrwch chi dalu yn unol â’ch sefyllfa ariannol. Fydd neb yn cael ei droi ymaith oherwydd diffyg arian.) Mi fedrwch chi dalu drwy PayPal (PayPal Chris Protheroe) neu ag arian parod wrth ichi gyrraedd.

AR-LEIN: Ymunwch â ni ar Zoom (y ddolen ar gyfer pob sesiwn): amritamandala ar zoom.
Ymunwch yn brydlon os gwelwch yn dda. Mae’r sesiynau’n cael eu recordio fel y gall eraill gael budd ohonyn nhw.

CYSWLLT: Chris Protheroe. Mi fedrwch chi anfon neges breifat imi ar WhatsApp neu o’r dudalen Facebook (gweler isod), neu cysylltwch â mi ar 07784 851291.

Mae’r holl wybodaeth i’w chael yn y fan yma: www.facebook.com/amritamandala.northwales

Mae’r myfyrdod wedi ei seilio ar Mantrayana (y “cyfrwng Mantra”, sy’n cael ei alw hefyd yn Bhakti Yoga neu Guru Yoga, a’i wreiddiau yn y traddodiadau Hindŵaidd a Bwdïaidd).

Mae Mantra’n cysylltu eich meddwl a’ch corff drwy soniaredd; mae’n rhoi egni i’n bod fel y medrwn ni ei brofi’n llawnach, ac yn helpu i’n rhyddhau ni oddi wrth ein diffyg sylwgarwch, gan ein dwyn ni i’r presennol. Y canlyniad yw ymdeimlad dwfn o heddwch ac ymwybyddiaeth fyfyriol sy’n treiddio i’n bywyd bob dydd. Efallai ei fod yn swnio’n gymhleth, ond mae’r arferion yn rhai syml ac effeithiol, ac mi fydda i’n eich arwain chi drwy’r cyfan.


Sessions start on Tuesday 13th June at 7.20pm. Drop-in sessions (and Online). No need to register, just turn up. Suggested donation is £4 – £12 for each class (sliding scale, you may pay as you wish according to your financial situation. No one is turned away due to lack of funds.) You can pay by PayPal (PayPal Chris Protheroe)  or on arrival by cash.

ONLINE: Join on Zoom (link for all sessions): amritamandala on zoom. Please join on time. Sessions are recorded so that others may benefit.

CONTACT: Chris Protheroe. You can private message me or WhatsApp me from the Facebook page (see below), or contact me on 07784 851291.

All information found here: www.facebook.com/amritamandala.northwales

The meditation is based on Mantrayana (the “vehicle of Mantra”, also known as Bhakti Yoga or Guru Yoga, originated from Hindu and Buddhist traditions).

Mantra connects our mind and body through resonance, energises our being so that we can experience it more fully, and helps release us from our distracted-ness, bringing us into presence. The result is a deep sense of peace and mindfulness that spreads into daily life. It might sound complicated, but the practises are simple and effective, and I will guide you through it all.