IOGA YN NEUADD Y PENTREF
SESIYNAU RHAD AC AM DDIM!
RŴAN YN AGORED I BOB OED!
Yn dilyn y diddordeb a ddangoswyd mewn Ioga yn yr ymatebion i’n holiadur yn ddiweddar, rydym bellach wedi trefnu dosbarthiadau Cyflwyniad i Ioga sydd i’w cynnal yn Neuadd y Pentref ar ddwy noson ym mis Mawrth: 15/3/22 a 22/3/22 am 6pm. Fe fydd y sesiynau’n para am awr a hanner yr un, a darperir te/coffi a bisgedi. Gallwch fwcio i fynychu un neu ddwy noson.
Nalini Yoga sy’n cynnal y dosbarthiadau yma, gyda chefnogaeth grant gan Gyngor Gwynedd.
Mae rheolau Covid yn golygu fod yn rhaid i’r rhai sy’n mynychu ddod â’u mat eu hunain (mae Argos yn gwerthu rhai am £20). Ac eithrio hynny, does dim rhaid talu am y ddwy sesiwn yma.
Cyfyngir maint y Dosbarth i 12 o bobl fesul sesiwn, felly “y cyntaf i’r Felin!”
BWCIWCH EICH LLE AM DDIM YN AWR:
NEUADD BENTREF RHIWLAS,
CYNGOR GWYNEDD A
NALINI YOGA